Cosmetigau

Pecyn colur nodweddiadol y ferch.

Math o ddarpariaeth megis trwyth, eli neu bowdwr a roir ar y corff i'w decáu, dieithrio, glanhau, cyflyru neu warchod yw cosmetigau[1][2] neu gosmetigion.[2] Cosmetigau sy'n lliwio'r croen yw colur, neu weithiau mecyp,[3] ac felly paentio neu liwio rhannau'r corff, gan amlaf y wyneb, y dwylo neu'r traed, mewn patrymau a lliwiau sy'n perthyn i normau diwylliannol yw coluro.

Modd o addurno'r corff yw cosmetigau sy'n debyg i ffasiynau dros dro megis dillad, gemwaith ac arddulliau gwallt yn y synnwyr y gellir ei newid yn hawdd. Mae hyn yn eu gwneud yn wahanol i ffurfiau newid y corff yn barhaol megis tyllu, tatŵio a chrafu'r croen. Cystal â bod gan bob diwylliant draddodiadau ei hun o ddefnyddio cosmetigau. Cymhorthion harddwch yw cosmetigau yn ôl y diffiniad cul, hynny yw cynnyrch a ddodir ar y corff i wella'r olwg a phwysleisio nodweddion arbennig. Yn ôl y diffiniad eangach, cynhwysir darpariaethau a ddefnyddir er rhesymau crefyddol, defodol, meddyginiaethol, ac ar gyfer y theatr.[4][5] Amrywia arferion cosmetigau yn eang ar draws y byd a thrwy hanes yn dibynnu ar draddodiadau, credoau, a ffasiynau. Er i ddynion ddefnyddio cosmetigau ar adegau, yn yr oes fodern dim ond menywod sy'n eu defnyddio fel rheol.

  1.  cosmetig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2015.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [cosmetic].
  3.  mecyp. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2015.
  4. Julie Vedder. The Oxford Companion to the Body, gol. Colin Blakemore a Shelia Jennett (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001), make-up.
  5. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Haiken